10. Wnaethon ni gymryd dim sylw ohonot ti pan oeddet ti'n ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi, ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw.
11. “Mae pobl Israel i gyd wedi mynd yn rhy bell, ac wedi troi cefn arnat ti a diystyru beth roeddet ti'n ddweud. Felly mae'r felltith roeddet ti wedi ein rhybuddio ni amdani mor ddifrifol yng Nghyfraith Moses wedi digwydd, am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di.
12. Ti wedi gwneud beth roeddet ti wedi ei fygwth i ni a'n harweinwyr. Mae wedi bod yn drychineb ofnadwy. Does erioed y fath drwbwl wedi bod yn unman ag a ddigwyddodd yn Jerwsalem.
13. Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau'n iawn gyda'r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a cydnabod dy fod ti'n ffyddlon.
14. Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth oedd e'n wneud, a daeth â'r dinistr arnon ni. Mae popeth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno.
15. “Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy'n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft: dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg.
16. O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy'n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a'r mynydd rwyt wedi ei gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a'n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o'u cwmpas nhw!
17. Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig eto ar dy deml sydd wedi ei dinistrio.
18. O Dduw, gwrando'n astud ar beth dw i'n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy'n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni'n honni ein bod wedi gwneud beth sy'n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog.