1. Dyma Dareius o Media, mab Ahasferus, yn cael ei wneud yn frenin ar Ymerodraeth Babilon.
2. Yn ystod blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad roeddwn i, Daniel, wedi bod yn darllen yr ysgrifau sanctaidd. Dyma fi'n gweld fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth y proffwyd Jeremeia y byddai Jerwsalem yn adfeilion am saith deg o flynyddoedd.
3. Felly dyma fi'n troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Ro'n i'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen.
4. Ro'n i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a cyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy'r Duw mawr a rhyfeddol! Ti'n Dduw ffyddlon sy'n cadw dy ymrwymiad i'r bobl sy'n dy garu ac sy'n ufudd i ti.
5. Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy'n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di.
6. Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gyda'n brenhinoedd ni a'n harweinwyr, ein hynafiaid a'n pobl i gyd.