9. Ond yna, allan o un ohonyn nhw, dyma gorn bach arall yn codi. Roedd yn fach i ddechrau, ond tyfodd yn fawr iawn, ac ymestyn i gyfeiriad y de a'r dwyrain, ac i gyfeiriad y Wlad Hardd.
10. Tyfodd mor dal nes iddo gyrraedd y fyddin nefol, a bwrw rhai ohonyn nhw (sef y sêr) i lawr, a'i sathru nhw dan draed.
11. Ond aeth mor bell â herio Tywysog y fyddin nefol. Stopiodd yr aberthu dyddiol, a dinistrio ei deml.
12. Roedd ei fyddin yn sefyll yn erbyn yr aberthu dyddiol fel gweithred o wrthryfel, a disodli'r gwir. Roedd yn llwyddo i wneud beth bynnag oedd e eisiau.
13. Wedyn dyma fi'n clywed bod sanctaidd yn siarad, ac un sanctaidd arall yn gofyn iddo. “Am faint mwy mae hyn yn mynd i fynd ymlaen – y gwrthryfel yma sy'n stopio'r aberthu dyddiol, a'r deml a'r fyddin yn cael eu sathru dan draed?”
14. Atebodd y llall, “Am ddwy fil tri chant bore a hwyr. Wedyn bydd y deml yn cael ei gwneud yn iawn eto.”
15. Roeddwn i, Daniel, yn edrych ar hyn i gyd, ac yn ceisio gwneud sens o'r cwbl. Yna'n sydyn, roedd un oedd yn edrych fel person dynol yn sefyll o'm blaen i.
16. A dyma fi'n clywed llais rhywun yn galw o gyfeiriad Camlas Wlai, “Gabriel, esbonia i'r dyn yma beth sy'n digwydd.”
17. Felly dyma fe'n dod ata i. Roedd gen i ofn am fy mywyd, a dyma fi'n disgyn ar fy ngwyneb ar lawr o'i flaen. A dyma fe'n dweud, “Ddyn, rhaid i ti ddeall mai gweledigaeth am y diwedd ydy hon.”
18. Wrth iddo ddweud hyn dyma fi'n llewygu. Roeddwn i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr. Ond dyma fe'n cyffwrdd fi, a'm codi ar fy nhraed.
19. Yna dwedodd, “Dw i'n mynd i ddweud wrthot ti beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod o ddigofaint. Gweledigaeth am y diwedd ydy hon.
20. Mae'r hwrdd welaist ti, gyda dau gorn, yn cynrychioli brenhinoedd Media a Persia.