Daniel 8:19-27 beibl.net 2015 (BNET)

19. Yna dwedodd, “Dw i'n mynd i ddweud wrthot ti beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod o ddigofaint. Gweledigaeth am y diwedd ydy hon.

20. Mae'r hwrdd welaist ti, gyda dau gorn, yn cynrychioli brenhinoedd Media a Persia.

21. Y bwch gafr welaist ti ydy brenin y Groegiaid, a'r corn mawr ar ganol ei dalcen ydy'r brenin cyntaf.

22. Mae'r pedwar corn ddaeth yn lle'r un gafodd ei dorri, yn dangos y bydd Ymerodraeth Groeg yn rhannu'n bedair teyrnas. Ond fydd dim un ohonyn nhw mor gryf â'r gyntaf.

23. Pan fydd y teyrnasoedd yma ar fin dod i ben,a'i gwrthryfel ar ei waethaf,bydd brenin caled, twyllodrus yn codi.

24. Bydd yn troi'n bwerus iawn(ond ddim drwy ei nerth ei hun).Bydd yn achosi'r dinistr mwyaf ofnadwy.Bydd yn llwyddo i wneud beth bynnag mae e eisiau.Bydd yn dinistrio'r bobl mae'r angylion yn eu hamddiffyn.

25. Bydd yn llwyddo i dwyllo llawer drwy ei glyfrwch,ac yn brolio ei fawredd ei hun.Bydd yn dinistrio llawer o bobl sy'n meddwl eu bod yn saff.Bydd yn herio'r un sy'n Dywysog ar dywysogion,ond yna'n sydyn bydd yn cael ei dorri gan law anweledig.

26. “Mae'r weledigaeth am y dwy fil tri chant bore a hwyr yn wir, ond i'w selio a'i chadw o'r golwg. Mae'n sôn am amser yn y dyfodol pell.”

27. Roeddwn i, Daniel, yn swp sâl am rai dyddiau. Ond yna, ar ôl gwella, dyma fi'n cario mlaen i weithio i'r brenin. Ond roedd y weledigaeth wedi fy syfrdanu. Doedd hi ddim yn gwneud sens i mi.

Daniel 8