18. Ond yn y diwedd bydd pobl sanctaidd y Duw Goruchaf yn cael teyrnasu – byddan nhw'n teyrnasu am byth!’
19. “Ond wedyn roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd creadur, yr un oedd yn hollol wahanol i'r lleill. Roedd hwnnw'n wirioneddol ddychrynllyd gyda'i ddannedd haearn a'i grafangau pres. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru dan draed bopeth oedd yn dal i sefyll.
20. Roeddwn i hefyd eisiau gwybod beth oedd y deg corn ar ei ben, a'r corn bach gododd wedyn a gwneud i dri o'r lleill syrthio. Dyma'r corn oedd gyda llygaid, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. Roedd y corn yma'n edrych yn gryfach na'r lleill.
21. Roeddwn i'n gweld y corn yma yn brwydro yn erbyn pobl sanctaidd Duw ac yn eu trechu nhw.
22. Dyna oedd yn digwydd hyd nes i'r Un Hynafol ddod a barnu o blaid pobl sanctaidd y Duw Goruchaf. A dyma nhw wedyn yn cael teyrnasu.
23. “Dyma ddwedodd wrtho i:‘Mae'r pedwerydd creaduryn cynrychioli ymerodraethfydd yn wahanol i bob teyrnas arall.Bydd yn llyncu'r byd i gyd,ac yn sathru pawb a phopeth.
24. Mae'r deg cornyn cynrychioli deg breninfydd yn teyrnasu ar yr ymerodraeth.Ond wedyn bydd brenin arall yn codi –brenin gwahanol i'r lleill.Bydd yn bwrw i lawr dri brenin o'i flaen.
25. Bydd yn herio'r Duw Goruchafac yn cam-drin ei bobl sanctaidd.Bydd yn ceisio newid yr amserau osodwyd yn y gyfraith,a bydd pobl Dduw dan ei reolaetham gyfnod, dau gyfnod, a hanner cyfnod.
26. Yna wedi i'r llys eisteddbydd ei awdurdod yn cael ei gymryd oddi arno,a'i ddinistrio'n llwyr – am byth!
27. Bydd awdurdod brenhinol a grympob teyrnas dan y nefyn cael ei roi i bobl sanctaidd Duw.Mae Duw yn teyrnasu'n dragwyddol,a bydd pob awdurdod arall yn ei wasanaethuac yn ufudd iddo.’
28. “A dyna ddiwedd y weledigaeth. Roeddwn i, Daniel, wedi dychryn. Ro'n i'n welw. Ond cedwais y cwbl i mi fy hun.”