1. Yn ystod blwyddyn gyntaf teyrnasiad Belshasar, brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd – gweledigaeth tra roedd yn cysgu yn ei wely. Ysgrifennodd grynodeb o'r freuddwyd.
2. “Yn y weledigaeth ges i y noson honno roedd storm fawr ar y môr, a gwyntoedd yn chwythu o bob cyfeiriad.
3. A dyma bedwar creadur mawr yn codi allan o'r môr, pob un ohonyn nhw'n wahanol i'w gilydd.
4. “Roedd y cyntaf yn edrych fel llew, ond gydag adenydd fel eryr. Tra roeddwn i'n edrych, cafodd yr adenydd eu rhwygo oddi arno. Yna cafodd ei godi nes ei fod yn sefyll ar ei draed fel person dynol, a cafodd feddwl dynol.
5. “Wedyn dyma fi'n gweld ail greadur – un gwahanol. Roedd hwn yn edrych fel arth. Roedd yn symud o ochr i ochr, ac roedd ganddo dair asen yn ei geg, rhwng ei ddannedd. A dyma lais yn dweud wrtho, ‘Dos! Ymosod, a llarpio llawer o bobl!’
6. “Yna, wrth i mi edrych, dyma greadur arall yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn edrych fel llewpard, ond roedd ganddo bedair o adenydd ar ei gefn, fel adenydd adar. Roedd gan y creadur yma bedwar pen, a chafodd awdurdod i lywodraethu.
7. “Wedyn, yn y weledigaeth ges i y noson honno, dyma bedwerydd creadur yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn un erchyll, dychrynllyd, ac yn ofnadwy o gryf. Roedd ganddo ddwy res o ddannedd haearn. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru beth bynnag oedd ar ôl dan draed. Roedd yn hollol wahanol i'r creaduriaid eraill, ac roedd ganddo ddeg corn.
8. “Tra roeddwn i'n edrych ar y cyrn, dyma gorn arall – un bach – yn codi rhyngddyn nhw. Dyma dri o'r cyrn eraill yn cael eu gwthio o'u gwraidd i wneud lle i'r un bach. Roedd gan y corn yma lygaid tebyg i lygaid person dynol, a cheg oedd yn brolio pethau mawr.
9. “Wrth i mi syllu arno,cafodd gorseddau eu gosod i fyny,a dyma'r Un Hynafol yn eistedd.Roedd ei ddillad yn wyn fel eira,a'i wallt fel gwlân oen.Roedd ei orsedd yn fflamau tân,a'i holwynion yn wenfflam.
10. Roedd afon o dân yn llifoallan oddi wrtho.Roedd miloedd ar filoedd yn ei wasanaethu,a miliynau lawer yn sefyll o'i flaen.Eisteddodd y llys, ac agorwyd y llyfrau.
11. “Ro'n i'n dal i edrych wrth i'r corn bach ddal ati i frolio pethau mawr. Ac wrth i mi edrych dyma'r pedwerydd creadur yn cael ei ladd a'i daflu i'r tân.
12. (Cafodd yr awdurdod i lywodraethu ei gymryd oddi ar y creaduriaid eraill, er eu bod wedi cael byw am gyfnod ar ôl hynny).