16. Felly dyma'r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a'i fod i gael ei daflu i ffau'r llewod. Ond meddai'r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti'n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.”
17. Cafodd carreg fawr ei rhoi dros geg y ffau, a dyma'r brenin yn gosod ei sêl arni gyda'i fodrwy, a'i uchel-swyddogion yr un fath, fel bod dim modd newid tynged Daniel.
18. Yna dyma'r brenin yn mynd yn ôl i'w balas. Wnaeth e fwyta dim byd y noson honno. Gwrthododd gael ei ddifyrru, ac roedd yn methu'n lân a cysgu drwy'r nos.
19. Pan oedd hi'n dechrau gwawrio'r bore wedyn dyma'r brenin yn brysio yn ôl at ffau'r llewod,
20. ac wrth agosáu at y ffau dyma fe'n galw ar Daniel mewn llais pryderus, “Daniel! Gwas y Duw byw. Ydy'r Duw wyt ti'n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”
21. A dyma Daniel yn ateb, “O frenin! Boed i chi fyw am byth!
22. Ydy, mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau'r llewod, a dŷn nhw ddim wedi mrifo i o gwbl. Achos roeddwn i'n ddieuog yng ngolwg Duw – ac yn eich golwg chi hefyd, eich mawrhydi. Wnes i ddim drwg i chi.”
23. Roedd y brenin wrth ei fodd, a dyma fe'n gorchymyn codi Daniel allan o'r ffau. Dyma nhw'n gwneud hynny, a doedd e ddim mymryn gwaeth, am ei fod wedi trystio'i Dduw.