Daniel 6:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Dareius yn penderfynu rhannu'r deyrnas gyfan yn gant dau ddeg o daleithiau, a penodi pennaeth ar bob un.

2. Byddai penaethiaid y taleithiau yma yn atebol i dri comisiynydd, ac roedd Daniel yn un o'r rheiny. Y tri comisiynydd oedd yn gofalu am bethau ar ran y brenin.

3. Yn fuan iawn daeth hi'n amlwg fod Daniel yn llawer mwy galluog na'r comisiynwyr eraill a penaethiaid y taleithiau i gyd – roedd ganddo allu cwbl anarferol. Yn wir, roedd y brenin yn bwriadu rhoi'r deyrnas i gyd dan ei ofal.

4. O ganlyniad i hynny roedd y comisiynwyr eraill a penaethiaid y taleithiau eisiau ffeindio bai ar y ffordd roedd Daniel yn delio gyda gweinyddiaeth y deyrnas. Ond roedden nhw'n methu dod o hyd i unrhyw sgandal na llygredd. Roedd Daniel yn gwbl ddibynadwy. Doedd dim tystiolaeth o unrhyw esgeulustod na thwyll.

5. “Does gynnon ni ddim gobaith dod â cyhuddiad yn erbyn y Daniel yma, oni bai ein bod yn dod o hyd i rywbeth sy'n gysylltiedig â chyfraith ei Dduw,” medden nhw.

6. Felly dyma'r comisiynwyr a penaethiaid y taleithiau yn cynllwyn gyda'i gilydd, ac yn mynd at y brenin a dweud wrtho, “Frenin Dareius, bydd fyw am byth!

7. Mae comisiynwyr y deyrnas, yr uchel-swyddogion, penaethiaid y taleithiau, a chynghorwyr y brenin, a'r llywodraethwyr yn meddwl y byddai'n syniad da i'r brenin wneud cyfraith newydd yn gorchymyn fel hyn: ‘Am dri deg diwrnod mae pawb i weddïo arnoch chi, eich mawrhydi. Os ydy rhywun yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ar unrhyw berson arall, bydd yn cael ei daflu i ffau'r llewod.’

8. Felly, eich mawrhydi, cyhoeddwch y gwaharddiad ac arwyddo'r ddogfen, fel ei bod yn gwbl amhosib i'w newid. Bydd yn rhan o gyfraith Media a Persia, sy'n aros, a byth i gael ei newid.”

9. Felly dyma'r brenin Dareius yn arwyddo'r gwaharddiad.

10. Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi ei harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny'r grisiau, a'i ffenestri'n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna ble roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo.

11. Dyma'r dynion oedd wedi cynllwyn gyda'i gilydd yn mynd i dŷ Daniel, a'i gael yno'n gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help.

12. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy'n gwneud hynny yn cael ei daflu i'r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai'r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.”

13. Yna dyma nhw'n dweud wrth y brenin, “Dydy'r dyn Daniel yna, oedd yn un o'r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na'ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae'n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.”

14. Pan glywodd y brenin hyn, doedd e ddim yn hapus o gwbl. Roedd yn ceisio meddwl am ffordd i achub Daniel. Buodd wrthi drwy'r dydd yn ceisio meddwl am ffordd y gallai ei helpu.

Daniel 6