Daniel 5:21-31 beibl.net 2015 (BNET)

21. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda'r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a'i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai'r Duw Goruchaf sy'n teyrnasu dros lywodraethau'r byd, a'i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau.

22. “Roeddech chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, ond dych chithau wedi bod yr un mor falch.

23. Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a'i defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw – chi a'ch uchel-swyddogion, gyda'ch gwragedd a'ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg – duwiau sy'n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy'n rhoi anadl i chi fyw, ac sy'n dal eich bywyd a'ch tynged yn ei law!

24. Dyna pam anfonodd e'r llaw i ysgrifennu'r neges yma.

25. “Dyma beth sydd wedi ei ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN

26. A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‛cyfrif‛. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi eu rhifo. Mae Duw'n dod â nhw i ben.

27. Ystyr TECEL ydy ‛pwyso‛. Chi wedi'ch pwyso yn y glorian, a'ch cael yn brin.

28. Ystyr PARSIN ydy ‛rhannu‛. Mae'ch teyrnas wedi ei rhannu'n ei hanner a'i rhoi i Media a Persia.”

29. Dyma Belshasar yn gorchymyn fod Daniel i gael ei wisgo mewn porffor, i gael cadwyn aur am ei wddf, ac i'w ddyrchafu i'r drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.

30. Ond ar y noson honno cafodd Belshasar, brenin Babilon, ei lofruddio.

31. Daeth Dareius y Mediad yn frenin ar y deyrnas. Roedd yn chwe deg dwy mlwydd oed.

Daniel 5