14. Dw i wedi clywed fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a bod gen ti ddirnadaeth, a deall, a doethineb anarferol.
15. Dw i wedi gofyn i'r dynion doeth a'r swynwyr ddarllen ac esbonio'r ysgrifen yma i mi, ond dŷn nhw ddim yn gallu.
16. Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti'n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu, byddi'n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
17. Ond dyma Daniel yn ateb y brenin, “Cadwch eich rhoddion a'u rhoi nhw i rywun arall. Ond gwna i ddweud wrth y brenin beth ydy ystyr yr ysgrifen.
18. Eich mawrhydi, roedd y Duw Goruchaf wedi rhoi awdurdod brenhinol ac ysblander mawr i Nebwchadnesar eich rhagflaenydd chi.
19. Roedd Duw wedi ei wneud mor fawr nes bod gan bawb o bob gwlad ac iaith ei ofn. Roedd yn lladd pwy bynnag roedd e'n dewis ei ladd, ac yn arbed pwy bynnag oedd e eisiau. Doedd dim dal pwy fyddai e'n ei anrhydeddu, a pwy fyddai'n ei sathru nesa.
20. Ond trodd yn ddyn balch ac ystyfnig, cymerodd Duw ei orsedd a'i anrhydedd oddi arno.
21. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda'r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a'i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai'r Duw Goruchaf sy'n teyrnasu dros lywodraethau'r byd, a'i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau.
22. “Roeddech chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, ond dych chithau wedi bod yr un mor falch.
23. Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a'i defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw – chi a'ch uchel-swyddogion, gyda'ch gwragedd a'ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg – duwiau sy'n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy'n rhoi anadl i chi fyw, ac sy'n dal eich bywyd a'ch tynged yn ei law!
24. Dyna pam anfonodd e'r llaw i ysgrifennu'r neges yma.
25. “Dyma beth sydd wedi ei ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN
26. A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‛cyfrif‛. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi eu rhifo. Mae Duw'n dod â nhw i ben.
27. Ystyr TECEL ydy ‛pwyso‛. Chi wedi'ch pwyso yn y glorian, a'ch cael yn brin.
28. Ystyr PARSIN ydy ‛rhannu‛. Mae'ch teyrnas wedi ei rhannu'n ei hanner a'i rhoi i Media a Persia.”
29. Dyma Belshasar yn gorchymyn fod Daniel i gael ei wisgo mewn porffor, i gael cadwyn aur am ei wddf, ac i'w ddyrchafu i'r drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.
30. Ond ar y noson honno cafodd Belshasar, brenin Babilon, ei lofruddio.
31. Daeth Dareius y Mediad yn frenin ar y deyrnas. Roedd yn chwe deg dwy mlwydd oed.