6. Felly dyma fi'n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd.
7. Dyma'r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a'r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi'n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi'n ei olygu.
8. Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw'n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i'n ei addoli) – mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi'n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd.
9. “Belteshasar. Ti ydy'r prif swynwr. Dw i'n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma.
10. “Dyma beth welais i yn y freuddwyd:Roeddwn i'n gweld coeden fawryng nghanol y ddaear –roedd hi'n anhygoel o dal.
11. Roedd y goeden yn tyfu'n fawr ac yn gref.Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i'r awyrroedd i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd.
12. Roedd ei dail yn hardd,ac roedd digonedd o ffrwyth arni –digon o fwyd i bawb!Roedd anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani,ac adar yn nythu yn ei brigau.Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni.
13. “Tra roeddwn yn gweld hyn yn y freuddwyd, dyma angel sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd.
14. Dyma fe'n gweiddi'n uchel,‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd!Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth!Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd,a heliwch yr adar o'i brigau!
15. Ond gadewch y boncyff a'r gwreiddiau yn y ddaear,gyda rhwymyn o haearn a phres amdano.Bydd y gwlith yn ei wlychugyda'r glaswellt o'i gwmpas;a bydd yn bwyta planhigion gwylltgyda'r anifeiliaid.