5. Ond un noson ces i freuddwyd wnaeth fy nychryn i go iawn. Roedd beth welais i yn hunllef ddychrynllyd.
6. Felly dyma fi'n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd.
7. Dyma'r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a'r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi'n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi'n ei olygu.
8. Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw'n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i'n ei addoli) – mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi'n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd.
9. “Belteshasar. Ti ydy'r prif swynwr. Dw i'n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma.
10. “Dyma beth welais i yn y freuddwyd:Roeddwn i'n gweld coeden fawryng nghanol y ddaear –roedd hi'n anhygoel o dal.
11. Roedd y goeden yn tyfu'n fawr ac yn gref.Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i'r awyrroedd i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd.
12. Roedd ei dail yn hardd,ac roedd digonedd o ffrwyth arni –digon o fwyd i bawb!Roedd anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani,ac adar yn nythu yn ei brigau.Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni.
13. “Tra roeddwn yn gweld hyn yn y freuddwyd, dyma angel sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd.
14. Dyma fe'n gweiddi'n uchel,‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd!Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth!Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd,a heliwch yr adar o'i brigau!
15. Ond gadewch y boncyff a'r gwreiddiau yn y ddaear,gyda rhwymyn o haearn a phres amdano.Bydd y gwlith yn ei wlychugyda'r glaswellt o'i gwmpas;a bydd yn bwyta planhigion gwylltgyda'r anifeiliaid.
16. Bydd yn sâl yn feddyliol,ac yn meddwl ei fod yn anifail.Bydd yn aros felly am amser hir.
17. Mae'r angylion wedi cyhoeddi hyn,a'r rhai sanctaidd wedi rhoi'r ddedfryd!“‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd. Mae'n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’
18. “Dyna'r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae'n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio'r ystyr i mi. Ond dw i'n siŵr y byddi di'n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.”