Daniel 4:4-12 beibl.net 2015 (BNET)

4. Roeddwn i, Nebwchadnesar, yn byw'n foethus ac yn ymlacio adre yn y palas.

5. Ond un noson ces i freuddwyd wnaeth fy nychryn i go iawn. Roedd beth welais i yn hunllef ddychrynllyd.

6. Felly dyma fi'n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd.

7. Dyma'r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a'r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi'n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi'n ei olygu.

8. Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw'n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i'n ei addoli) – mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi'n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd.

9. “Belteshasar. Ti ydy'r prif swynwr. Dw i'n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma.

10. “Dyma beth welais i yn y freuddwyd:Roeddwn i'n gweld coeden fawryng nghanol y ddaear –roedd hi'n anhygoel o dal.

11. Roedd y goeden yn tyfu'n fawr ac yn gref.Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i'r awyrroedd i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd.

12. Roedd ei dail yn hardd,ac roedd digonedd o ffrwyth arni –digon o fwyd i bawb!Roedd anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani,ac adar yn nythu yn ei brigau.Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni.

Daniel 4