1. Y brenin Nebwchadnesar, at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith – pawb drwy'r byd: Heddwch a llwyddiant i chi i gyd!
2. Dw i eisiau dweud wrthoch chi am y ffordd wyrthiol mae'r Duw Goruchaf wedi dangos ei hun i mi.
3. Mae'r arwyddion mae'n eu rhoi yn rhyfeddol!Mae ei wyrthiau yn syfrdanol!Fe ydy'r un sy'n teyrnasu am byth,ac yn rheoli popeth o un genhedlaeth i'r llall!
4. Roeddwn i, Nebwchadnesar, yn byw'n foethus ac yn ymlacio adre yn y palas.
5. Ond un noson ces i freuddwyd wnaeth fy nychryn i go iawn. Roedd beth welais i yn hunllef ddychrynllyd.
6. Felly dyma fi'n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd.
7. Dyma'r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a'r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi'n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi'n ei olygu.