21. A dyma'r tri yn cael eu rhwymo a'u taflu i'r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw'n dal i wisgo'r cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall.
22. Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma'r fflamau yn llamu allan o'r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i'r tân.
23. Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi eu rhwymo'n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais.
24. Ond yna'n sydyn dyma'r brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a'i taflu i'r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw.
25. “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i'n gweld pedwar o bobl, yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae'r pedwerydd yn edrych fel petai'n fod dwyfol.”
26. Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ac y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dowch allan! Dowch yma!” A dyma'r tri yn cerdded allan o'r tân.
27. Dyma benaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion, y llywodraethwyr a chynghorwyr y brenin i gyd yn casglu o'u cwmpas nhw. Doedd y tân ddim wedi eu llosgi nhw o gwbl, dim un blewyn. Doedd dim niwed i'w dillad. Doedd dim hyd yn oed arogl llosgi arnyn nhw!
28. Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhw'n fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.
29. Felly dw i am ei wneud yn ddeddf fod neb o unrhyw wlad neu iaith i ddweud unrhyw beth yn erbyn Duw Shadrach, Meshach ac Abednego. Os gwnân nhw, bydd eu cyrff yn cael eu rhwygo'n ddarnau, a'u cartrefi yn cael eu troi'n domen sbwriel! Achos does yr un Duw arall yn gallu achub fel yma.”
30. A dyma'r brenin yn rhoi dyrchafiad a swyddi gwell fyth yn nhalaith Babilon i Shadrach, Meshach ac Abednego.