Daniel 3:21-26 beibl.net 2015 (BNET)

21. A dyma'r tri yn cael eu rhwymo a'u taflu i'r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw'n dal i wisgo'r cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall.

22. Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma'r fflamau yn llamu allan o'r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i'r tân.

23. Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi eu rhwymo'n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais.

24. Ond yna'n sydyn dyma'r brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a'i taflu i'r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw.

25. “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i'n gweld pedwar o bobl, yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae'r pedwerydd yn edrych fel petai'n fod dwyfol.”

26. Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ac y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dowch allan! Dowch yma!” A dyma'r tri yn cerdded allan o'r tân.

Daniel 3