15. Dw i'n fodlon rhoi un cyfle arall i chi. Pan fyddwch chi'n clywed yr offerynnau, os ydych chi'n barod i blygu i lawr ac addoli y ddelw dw i wedi ei chodi, bydd popeth yn iawn. Ond os byddwch chi'n gwrthod, byddwch chi'n cael eich taflu ar unwaith i mewn i'r ffwrnais o dân. Pa dduw sy'n mynd i'ch achub chi o'm gafael i wedyn?”
16. Ond dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn ateb y brenin, “Does dim pwynt i ni eich ateb chi.
17. Os ydy'r Duw dŷn ni'n ei addoli yn bodoli, bydd e'n gallu'n hachub ni o'r ffwrnais dân ac o'ch gafael chi, o frenin.
18. Ond hyd yn oed os ydy e ddim yn gwneud hynny, sdim gwahaniaeth. Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, na'r ddelw aur dych chi wedi ei chodi.”
19. Roedd Nebwchadnesar yn lloerig gyda Shadrach, Meshach ac Abednego. Roedd ei wyneb yn dweud y cwbl! Rhoddodd orchymyn fod y ffwrnais i gael ei thanio saith gwaith poethach nag arfer.
20. Yna gorchmynnodd i ddynion cryfion o'r fyddin rwymo Shadrach, Meshach ac Abednego a'u taflu nhw i mewn i'r ffwrnais.
21. A dyma'r tri yn cael eu rhwymo a'u taflu i'r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw'n dal i wisgo'r cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall.
22. Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma'r fflamau yn llamu allan o'r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i'r tân.
23. Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi eu rhwymo'n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais.
24. Ond yna'n sydyn dyma'r brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a'i taflu i'r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw.
25. “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i'n gweld pedwar o bobl, yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae'r pedwerydd yn edrych fel petai'n fod dwyfol.”
26. Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ac y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dowch allan! Dowch yma!” A dyma'r tri yn cerdded allan o'r tân.
27. Dyma benaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion, y llywodraethwyr a chynghorwyr y brenin i gyd yn casglu o'u cwmpas nhw. Doedd y tân ddim wedi eu llosgi nhw o gwbl, dim un blewyn. Doedd dim niwed i'w dillad. Doedd dim hyd yn oed arogl llosgi arnyn nhw!
28. Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhw'n fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.