1. Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn gwneud delw aur oedd yn 27 metr o uchder ac yn dri metr o led. Cafodd y cerflun ei osod ar wastadedd Dwra yn nhalaith Babilon.
2. Yna anfonodd orchymyn allan yn galw penaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion a'r llywodraethwyr i gyd at ei gilydd i seremoni dadorchuddio'r ddelw; hefyd rheolwyr a chomisiynwyr, cynghorwyr y brenin, trysoryddion, barnwyr, ynadon, a phawb arall o bwys.
3. A dyma nhw i gyd yn dod i'r seremoni. Roedd pawb yno, yn sefyll o flaen y ddelw oedd Nebwchadnesar wedi ei chodi.
4. Yna dyma swyddog yn cyhoeddi'n uchel, “Dyma orchymyn y brenin i bawb sydd yma, o bob gwlad ac iaith:
5. Pan fydd y gerddoriaeth yn dechrau – y corn, ffliwt, telyn, trigon, crythau, pibau a'r offerynnau eraill – mae pawb i blygu i lawr ac addoli y ddelw aur mae'r brenin Nebwchadnesar wedi ei chodi.
6. Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod plygu ac addoli'r ddelw, yn cael eu taflu ar unwaith i mewn i ffwrnais o dân.”
7. Felly yr eiliad y clywodd y bobl yr offerynnau i gyd, dyma pawb, o bob gwlad ac iaith yn plygu i lawr ac yn addoli'r ddelw aur oedd Nebwchadnesar wedi ei chodi.
8. Ond dyma rai o'r dynion doeth yn mynd at y brenin, a dechrau lladd ar yr Iddewon.
9. “O frenin! Boed i chi fyw am byth!” medden nhw.
10. “Roeddech chi wedi gorchymyn fod pawb i blygu i lawr ac addoli'r ddelw aur pan oedden nhw'n clywed y gerddoriaeth yn dechrau.
11. A bod pwy bynnag sy'n gwrthod plygu ac addoli'r ddelw, i gael eu taflu i mewn i ffwrnais o dân.