“Na,” meddai'r brenin, “yn bendant ddim. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae'n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi'n cael eu rhwygo'n ddarnau, a'ch cartrefi chi'n cael eu troi'n domen sbwriel!