41. Ac wedyn y traed a'r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) – bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi ei gymysgu â chrochenwaith ydy e.
42. Cymysgedd o gryfder yr haearn a breuder y crochenwaith.
43. Mae'r cymysgedd hefyd yn dangos y bydd pobloedd yn cymysgu trwy briodas, ond ddim yn aros gyda'i gilydd – yn union fel haearn a chrochenwaith, sydd ddim yn cymysgu gyda'i gilydd.
44. “Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw y nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a'i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu'r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.
45. Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu'r cwbl yn ddarnau – yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a'r aur. Mae'r Duw mawr wedi dangos i'r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae'r esboniad yn gywir hefyd.”
46. Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn plygu o flaen Daniel â'i wyneb ar lawr, a gorchymyn cyflwyno aberthau a llosgi arogldarth iddo.
47. Dwedodd wrth Daniel, “Ti ydy'r unig un sydd wedi gallu datrys y dirgelwch. Felly, does dim amheuaeth fod dy Dduw di yn Dduw ar y duwiau i gyd, ac yn feistr ar bob brenin. Mae e'n gallu datguddio pob dirgelwch!”
48. Dyma'r brenin yn rhoi un o swyddi uchaf y deyrnas i Daniel, ac yn rhoi llwythi o anrhegion iddo. Gwnaeth Daniel yn Llywodraethwr talaith Babilon gyfan, ac yn bennaeth dynion doeth Babilon i gyd.
49. A gofynnodd Daniel i'r brenin apwyntio Shadrach, Meshach ac Abednego yn rheolwyr gweinyddiaeth talaith Babilon. Roedd Daniel yn weinidog yn llywodraeth y brenin.