13. Roedd y gorchymyn ar fin cael ei weithredu, ac roedd Daniel a'i ffrindiau'n mynd i gael eu dienyddio hefyd.
14. Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio'r dynion doeth i gyd.
15. Gofynnodd i Arioch, “Capten, pam mae'r brenin wedi rhoi gorchymyn mor galed?” A dyma Arioch yn dweud beth oedd wedi digwydd.
16. Felly dyma Daniel yn gofyn i'r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai'n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd.
17. Wedyn aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Hananeia, Mishael ac Asareia am y peth.
18. Gofynnodd iddyn nhw weddïo y byddai Duw y nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Wedyn fydden nhw ddim yn cael eu dienyddio gyda gweddill dynion doeth Babilon.
19. Y noson honno dyma Daniel yn cael yr ateb i'r dirgelwch, mewn gweledigaeth yn ystod y nos. A dyma fe'n moli Duw y nefoedd,
20. a dweud,“Boed i enw Duw gael ei foli am byth!Mae e'n Dduw doeth a chryf.
21. Fe sy'n rheoli amser ac yn arwain hanes.Fe sy'n codi brenhinoedd ac yn eu diorseddu nhw.Fe sy'n rhoi doethineb i'r doeth,a gwybodaeth i bobl ddeallus.
22. Mae e'n datguddio pethau sy'n ddirgelwch llwyr.Mae e'n gweld beth sy'n y tywyllwch;mae golau o'i gwmpas e bob amser.
23. Dw i'n dy foli di! Clod i ti! O Dduw fy hynafiaid.Rwyt ti wedi rhoi doethineb a nerth i mi.Ti wedi dangos beth roedden ni angen ei wybod,a rhoi i mi'r ateb i gwestiwn y brenin.”
24. Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.”
25. Felly'n syth bin dyma Arioch yn mynd â Daniel i weld y brenin, a dweud wrtho, “Dw i wedi dod o hyd i ddyn, un o gaethion Jwda, sy'n gallu dweud wrth y brenin beth ydy ystyr ei freuddwyd!”
26. Dyma'r brenin yn gofyn i Daniel (oedd yn cael ei alw yn Belteshasar), “Ydy hyn yn wir? Wyt ti'n gallu dweud beth oedd y freuddwyd, a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu?”