Daniel 12:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Roeddwn i wedi ei glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi'n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?”

9. Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae'r neges yma i'w gadw'n gyfrinachol ac wedi ei selio nes bydd y diwedd wedi dod.

10. Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a'u coethi drwy'r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy'n digwydd.

11. O'r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a'r eilun ffiaidd sy'n dinistrio yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau.

12. Mae'r rhai sy'n disgwyl yn ffyddlon nes bydd mil tri chant tri deg pump o ddyddiau wedi mynd heibio wedi eu bendithio'n fawr.

13. “Felly dos di yn dy flaen. Gelli fod yn dawel dy feddwl. Pan ddaw'r diwedd, byddi di'n codi i dderbyn dy wobr.”

Daniel 12