8. Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny.
9. Ac wedyn bydd brenin y gogledd yn ymosod ar deyrnas brenin y de; ond fydd e ddim yn llwyddiannus – bydd rhaid iddo fynd yn ôl i'w wlad ei hun.
10. Yna bydd ei feibion yn casglu byddin enfawr i fynd i ryfel, a bydd y fyddin yn dod fel llif ac yn ymosod dro ar ôl tro, gan dorri trwodd yr holl ffordd at gaer brenin y de.
11. “Bydd brenin y de wedi ei gythruddo, ac yn dod allan i ymladd yn erbyn brenin y gogledd ac yn trechu'r fyddin enfawr oedd hwnnw wedi ei chasglu.
12. Ar ôl llwyddo i yrru byddin y gelyn i ffwrdd, bydd brenin y de yn meddwl ei fod yn anorchfygol. Bydd yn achosi hil-laddiad miloedd ar filoedd o bobl. Ond fydd ei lwyddiant ddim yn para'n hir.
13. Mewn ychydig flynyddoedd, bydd brenin y gogledd yn dod yn ôl gyda byddin fwy fyth. Bydd yn ymosod ar y de gyda byddin aruthrol fawr a digonedd o arfau.
14. “Yn y cyfamser bydd llawer o rai eraill yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de. Bydd eithafwyr o blith dy bobl dy hun yn codi, yn breuddwydio y gallan nhw lwyddo, ond methu wnân nhw.
15. Ond yna bydd brenin y gogledd yn dod ac yn codi rampiau gwarchae, a choncro dinas gaerog ddiogel. Fydd byddin y de ddim yn llwyddo i'w hamddiffyn. Fydd y milwyr gorau yno ddim yn gallu eu stopio nhw.
16. Bydd yr ymosodwr yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, a fydd neb yn gallu ei rwystro. Bydd yn concro'r Wlad Hardd, a bydd y gallu ganddo i'w dinistrio'n llwyr.
17. Ei nod fydd rheoli'r ymerodraeth gyfan. Bydd yn cynnig telerau heddwch ac yn cynnig ffurfio cynghrair drwy roi un o'i ferched yn wraig i frenin y de. Ei fwriad fydd dinistrio teyrnas y de, ond fydd ei gynllun ddim yn llwyddo.
18. “Bydd yn troi ei olygon wedyn at y dinasoedd o gwmpas Môr y Canoldir, ac yn concro llawer ohonyn nhw. Ond bydd arweinydd byddin arall yn rhoi stop ar y gormes. Bydd y gormeswr yn cael ei ormesu!
19. Felly bydd yn troi am adre i amddiffyn ei wlad ei hun, ond bydd e'n syrthio, a bydd e'n diflannu unwaith ac am byth.
20. “Bydd ei olynydd yn anfon un allan i godi trethi afresymol i gynnal cyfoeth ac ysblander y frenhiniaeth. Ond fydd e ddim yn teyrnasu'n hir. Bydd e'n marw, ond ddim yn gyhoeddus nac mewn brwydr.
21. “Ar ôl hwnnw bydd dyn cwbl ffiaidd yn cymryd yr orsedd – er mai nid fe oedd yn yr olyniaeth. Bydd yn llwyddo i gipio grym yn gwbl ddi-drafferth drwy gynllwyn a thwyll.