Daniel 11:22-30 beibl.net 2015 (BNET)

22. Bydd grym milwrol enfawr yn cael ei drechu a'i ddinistrio ganddo. A bydd yr arweinydd crefyddol yn cael ei ladd hefyd.

23. Bydd yn gwneud addewidion twyllodrus i sefydlu cytundebau heddwch. Ond yna'n dwyn y grym i gyd gyda chriw bach o gefnogwyr.

24. Wedyn, pan fydd pobl gyfoethocaf y wlad yn teimlo'n saff, bydd yn gwneud rhywbeth na wnaeth neb o'i hynafiaid. Bydd yn dwyn eu cyfoeth ac yn ei rannu i'w gefnogwyr. Yna bydd yn cynllunio i ymosod ar drefi caerog eraill, ond fydd hyn ddim yn para'n hir iawn.

25. “Bydd yn mynd ati i ddangos ei hun drwy godi byddin fawr yn erbyn brenin y de. Bydd brenin y de yn ymladd yn ei erbyn gyda byddin fwy fyth, ond ddim yn llwyddo am fod cynllwyn yn ei erbyn.

26. Bydd ei uchel-swyddogion ei hun yn ei dorri. Bydd ei fyddin yn cael ei hysgubo i ffwrdd, a bydd llawer iawn yn cael eu lladd.

27. Bydd y ddau frenin yn cyfarfod wrth y bwrdd i drafod telerau heddwch. Ond bwriad y ddau fel ei gilydd fydd gwneud drwg i'r llall, a fyddan nhw'n gwneud dim ond dweud celwydd wrth ei gilydd. Ond fydd hynny'n gwneud dim gwahaniaeth am fod yr amser yn dod pan fydd y cwbl yn dod i ben.

28. Bydd brenin y gogledd yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun gyda llwythi o gyfoeth. Ar ei ffordd yn ôl, ei fwriad fydd delio gyda phobl yr ymrwymiad sanctaidd. Ar ôl gwneud hynny bydd yn mynd adre.

29. “Y flwyddyn wedyn bydd yn ymosod ar y de eto, ond fydd pethau ddim yr un fath y tro yma.

30. Bydd llongau rhyfel o'r gorllewin yn dod yn ei erbyn, a bydd yn colli ei hyder. Bydd yn troi yn ôl, ac ar ei ffordd adre yn dangos ei rwystredigaeth drwy gam-drin pobl yr ymrwymiad sanctaidd. Bydd yn gwobrwyo'r rhai sy'n troi cefn ar eu crefydd.

Daniel 11