Daniel 11:12-18 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ar ôl llwyddo i yrru byddin y gelyn i ffwrdd, bydd brenin y de yn meddwl ei fod yn anorchfygol. Bydd yn achosi hil-laddiad miloedd ar filoedd o bobl. Ond fydd ei lwyddiant ddim yn para'n hir.

13. Mewn ychydig flynyddoedd, bydd brenin y gogledd yn dod yn ôl gyda byddin fwy fyth. Bydd yn ymosod ar y de gyda byddin aruthrol fawr a digonedd o arfau.

14. “Yn y cyfamser bydd llawer o rai eraill yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de. Bydd eithafwyr o blith dy bobl dy hun yn codi, yn breuddwydio y gallan nhw lwyddo, ond methu wnân nhw.

15. Ond yna bydd brenin y gogledd yn dod ac yn codi rampiau gwarchae, a choncro dinas gaerog ddiogel. Fydd byddin y de ddim yn llwyddo i'w hamddiffyn. Fydd y milwyr gorau yno ddim yn gallu eu stopio nhw.

16. Bydd yr ymosodwr yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, a fydd neb yn gallu ei rwystro. Bydd yn concro'r Wlad Hardd, a bydd y gallu ganddo i'w dinistrio'n llwyr.

17. Ei nod fydd rheoli'r ymerodraeth gyfan. Bydd yn cynnig telerau heddwch ac yn cynnig ffurfio cynghrair drwy roi un o'i ferched yn wraig i frenin y de. Ei fwriad fydd dinistrio teyrnas y de, ond fydd ei gynllun ddim yn llwyddo.

18. “Bydd yn troi ei olygon wedyn at y dinasoedd o gwmpas Môr y Canoldir, ac yn concro llawer ohonyn nhw. Ond bydd arweinydd byddin arall yn rhoi stop ar y gormes. Bydd y gormeswr yn cael ei ormesu!

Daniel 11