3. Ro'n i'n bwyta bwyd plaen – dim byd cyfoethog, dim cig na gwin. A wnes i ddim rhwbio olew ar fy nghorff nes oedd y tair wythnos drosodd.
4. Yna ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf ron i'n sefyll ar lan yr afon fawr, y Tigris.
5. Gwelais ddyn yn sefyll o'm blaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol.
6. Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, a'i lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau a'i goesau yn gloywi fel pres wedi ei sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau.
7. Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio.
8. Felly dyna lle roeddwn i'n sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cwbl. Ro'n i'n teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Ro'n i'n hollol wan.
9. Pan glywais e'n dechrau siarad dyma fi'n llewygu. Ro'n i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr.
10. Ond yna dyma law yn fy nghyffwrdd, a'm codi ar fy nwylo a'm gliniau.
11. “Daniel,” meddai, “rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Gwranda ar beth dw i'n mynd i'w ddweud wrthot ti. Saf ar dy draed. Dw i wedi cael fy anfon atat ti.” Pan ddwedodd hyn, dyma fi'n sefyll ar fy nhraed, ond ron i'n dal i grynu.
12. Yna dwedodd, “Daniel, paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed dy weddi ers y diwrnod cyntaf i ti blygu o'i flaen i geisio deall. A dw i wedi dod o achos dy weddi.
13. Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o'r prif arweinwyr, yn dod i'm helpu pan oeddwn i'n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun.