13. Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o'r prif arweinwyr, yn dod i'm helpu pan oeddwn i'n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun.
14. Ond dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol. Gweledigaeth am y dyfodol ydy hi.”
15. Tra roedd yn siarad roeddwn i'n edrych i lawr, ac yn methu dweud gair.
16. Yna dyma un oedd yn edrych fel person dynol yn cyffwrdd fy ngwefusau, a dyma fi'n dechrau siarad. “Syr,” meddwn i wrtho, “mae beth dw i wedi ei weld yn ormod i'w gymryd. Dw i'n teimlo'n hollol wan.
17. Meistr, sut alla i sydd ddim ond gwas, siarad â rhywun fel ti? Does gen i ddim nerth ar ôl. Dw i prin yn gallu anadlu!”
18. Yna dyma'r un oedd yn edrych fel person dynol yn fy nghyffwrdd i eto, a rhoi nerth i mi.
19. “Paid bod ag ofn,” meddai. “Ti'n ddyn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Bydd popeth yn iawn. Bydd yn ddewr! Bydd yn ddewr go iawn!” Wrth iddo siarad roeddwn i'n teimlo fy hun yn cryfhau. A dyma fi'n dweud, “Gelli siarad nawr, syr. Rwyt ti wedi gwneud i mi deimlo'n well.”
20. Yna meddai, “Wyt ti'n gwybod pam dw i wedi dod atat ti? Yn fuan iawn rhaid i mi fynd yn ôl i ymladd yn erbyn arweinydd Persia. Ond ar ôl i mi wneud hynny, bydd arweinydd y Groegiaid yn dod.
21. Ond yn gyntaf, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wedi ei ysgrifennu mewn llyfr sy'n ddibynadwy. Does neb i'm helpu i yn eu herbyn nhw ond Michael, eich arweinydd chi.