1. Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Cyrus, brenin Persia, cafodd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) neges arall. Neges am rywbeth fyddai wir yn digwydd – amser o ryfela a dioddef. Ac roedd Daniel wedi deall y neges a'r weledigaeth gafodd.
2. Ar y pryd, roeddwn i, Daniel, wedi bod yn galaru am dair wythnos lawn.
3. Ro'n i'n bwyta bwyd plaen – dim byd cyfoethog, dim cig na gwin. A wnes i ddim rhwbio olew ar fy nghorff nes oedd y tair wythnos drosodd.
4. Yna ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf ron i'n sefyll ar lan yr afon fawr, y Tigris.
5. Gwelais ddyn yn sefyll o'm blaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol.
6. Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, a'i lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau a'i goesau yn gloywi fel pres wedi ei sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau.
7. Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio.
8. Felly dyna lle roeddwn i'n sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cwbl. Ro'n i'n teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Ro'n i'n hollol wan.