5. A dyma'r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta'r bwyd a'r gwin gorau, wedi ei baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i'r brenin.
6. Roedd pedwar o'r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda – Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia.
7. Ond dyma'r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego.
8. Dyma Daniel yn penderfynu nad oedd e am i wneud ei hun yn aflan drwy fwyta'r bwyd a'r gwin oedd y brenin am ei roi iddo. Gofynnodd i'r prif swyddog am ganiatâd i beidio bwyta'r bwyd brenhinol.
9. Roedd Duw wedi gwneud i'r swyddog hoffi Daniel a bod yn garedig ato,
10. ond meddai wrtho, “Mae fy meistr y brenin wedi dweud beth ydych chi i'w fwyta a'i yfed. Mae arna i ofn beth fyddai'n wneud petaech chi'n edrych yn fwy gwelw a gwan na'r bechgyn eraill yr un oed â chi. Byddech chi'n rhoi fy mywyd i ar y lein!”
11. Ond wedyn dyma Daniel yn siarad â'r swyddog oedd wedi cael ei benodi i ofalu amdano fe, Hananeia, Mishael ac Asareia.
12. “Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod? Gad i ni fwyta dim ond llysiau a dŵr,