Daniel 1:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn y drydedd flwyddyn pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni.

2. A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o'r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon, a'i cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw.

3. Dyma'r brenin yn gorchymyn i Ashpenas, prif swyddog ei balas, chwilio am Israeliaid ifanc oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol a theuluoedd bonedd eraill –

4. dynion ifanc cryfion, iach a golygus. Rhai galluog, wedi cael addysg dda, ac yn fechgyn doeth, cymwys i weithio yn y palas. Roedden nhw i ddysgu iaith Babilon, a hefyd dysgu am lenyddiaeth y wlad.

5. A dyma'r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta'r bwyd a'r gwin gorau, wedi ei baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i'r brenin.

6. Roedd pedwar o'r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda – Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia.

7. Ond dyma'r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego.

Daniel 1