Colosiaid 4:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Rhaid i chi'r meistri fod yn gyfiawn ac yn deg wrth drin eich caethweision. Cofiwch fod gynnoch chithau Feistr yn y nefoedd!

2. Daliwch ati i weddïo drwy'r adeg, gan gadw'ch meddyliau yn effro a bod yn ddiolchgar.

3. A gweddïwch droson ni hefyd, y bydd Duw yn rhoi cyfle i ni rannu'r neges am y Meseia, ac esbonio'r dirgelwch amdano. Dyma pam dw i yn y carchar.

4. Gweddïwch y bydda i'n gwneud y neges yn gwbl glir, fel y dylwn i.

5. Byddwch yn ddoeth yn y ffordd dych chi'n ymddwyn tuag at bobl sydd ddim yn credu. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i rannu gyda nhw.

6. Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw a pheidio bod yn ddiflas. A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.

7. Cewch wybod fy hanes i gan Tychicus. Mae e'n frawd annwyl iawn, ac yn weithiwr ffyddlon sy'n gwasanaethu'r Arglwydd gyda mi.

8. Dw i'n ei anfon e atoch chi yn unswydd i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi.

Colosiaid 4