Colosiaid 3:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. Gadewch i'r heddwch mae'r Meseia'n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi'ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti'r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar.

16. Gadewch i'r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a'ch gwneud chi'n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio'ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw.

17. Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist – ie, popeth! – popeth dych chi'n ei ddweud a'i wneud. Dyna sut dych chi'n dangos eich diolch i Dduw.

18. Rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr – dyna'r peth iawn i bobl yr Arglwydd ei wneud.

19. Rhaid i chi'r gwŷr garu'ch gwragedd a pheidio byth bod yn gas wrthyn nhw.

20. Rhaid i chi'r plant fod yn ufudd i'ch rhieni bob amser, am fod hynny'n plesio'r Arglwydd.

21. Rhaid i chi'r tadau beidio bod mor galed ar eich plant nes eu bod nhw'n digalonni.

22. Rhaid i chi sy'n gaethweision fod yn ufudd i'ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw'n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi'n parchu'r Arglwydd.

23. Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol.

24. Byddwch chi'n derbyn eich gwobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy'r meistr dych chi'n ei wasanaethu go iawn.

25. Ond bydd y rhai sy'n gwneud beth sydd o'i le yn cael beth maen nhw'n ei haeddu – does gan Dduw ddim ffefrynnau.

Colosiaid 3