21. Ydy, mae wedi'ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi eich gwneud chi'n ffrindiau iddo'i hun
22. trwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae'n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn.
23. Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae'r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma'r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. A dyna'r gwaith dw i, Paul, wedi ei gael i'w wneud.
24. Dw i'n falch o gael dioddef drosoch chi. Dw i'n cyflawni yn fy nghorff i beth o'r dioddef sydd ar ôl – sef ‛gofidiau'r Meseia‛ – a hynny er mwyn ei gorff, yr eglwys.
25. Dw i wedi dod yn was iddi am fod Duw wedi rhoi gwaith penodol i mi, i gyhoeddi'r neges yn llawn ac yn effeithiol i chi sydd ddim yn Iddewon.
26. Dyma'r cynllun dirgel gafodd ei gadw o'r golwg am oesoedd a chenedlaethau lawer, ond sydd bellach wedi ei ddangos i bobl Dduw.
27. Mae Duw wedi dewis dangos fod y dirgelwch ffantastig yma ar gyfer pobl o bob cenedl. Y dirgelwch ydy bod y Meseia yn byw ynoch chi; a dyna'r hyder sydd gynnoch chi y cewch chi ran yn y pethau gwych sydd i ddod!