3. Mae dy wefusau fel edau goch,a'th geg mor siapus.Tu ôl i'r fêl mae dy fochaua'u gwrid fel pomgranadau.
4. Mae dy wddf fel tŵr Dafydda'r rhesi o gerrig o'i gwmpas;mil o darianau yn hongian arno,fel arfau milwyr arwrol.
5. Mae dy fronnau yn berffaithfel dwy gasél ifanc, efeilliaidyn pori ymysg y lilïau.
6. Rhaid i mi fynd a dringomynydd myrr a bryn thus,ac aros yno hyd nes iddi wawrioac i gysgodion y nos ddiflannu.
7. Mae popeth amdanat mor hardd f'anwylyd!Ti'n berffaith!
8. Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad,tyrd gyda mi o fryniau Libanus.Tyrd i lawr o gopa Amana,o ben Senir, sef copa Hermon;Tyrd i lawr o ffeuau'r llewoda lloches y llewpard.