11. Mae dy gusan yn felys fy nghariad,yn diferu fel diliau mêl.Mae mêl a llaeth dan dy dafod,ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus.
12. Fy merch annwyl, fy nghariad –rwyt fel gardd breifat dan glo;yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni.
13. Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau,yn llawn o'r ffrwyth gorau.Gardd bersawrus hudoluso henna hyfryd,
14. nard a saffrwn,sbeisiau pêr a sinamonthus o wahanol fathau,myrr ac aloes –pob un o'r perlysiau drutaf.
15. Ti ydy'r ffynnon yn yr ardd –ffynnon o ddŵr glân gloywyn llifo i lawr bryniau Libanus.