Caniad Solomon 2:12-14 beibl.net 2015 (BNET)

12. Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman,y tymor pan mae'r cread yn canua cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad.

13. Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedua'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd.F'anwylyd, tyrd!Gad i ni fynd, fy un hardd.”

14. Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraeddo'r golwg yn holltau'r graiga'r ogofâu ar y clogwyni!Gad i mi dy welda chlywed dy lais;mae sŵn dy lais mor swynol,a'th olwg mor ddeniadol.

Caniad Solomon 2