Caniad Solomon 2:10-17 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mae'n galw arna i:“F'anwylyd, tyrd!Gad i ni fynd, fy un hardd.

11. Edrych! Mae'r gaeaf drosodd;mae'r glaw trwm wedi hen fynd.

12. Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman,y tymor pan mae'r cread yn canua cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad.

13. Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedua'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd.F'anwylyd, tyrd!Gad i ni fynd, fy un hardd.”

14. Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraeddo'r golwg yn holltau'r graiga'r ogofâu ar y clogwyni!Gad i mi dy welda chlywed dy lais;mae sŵn dy lais mor swynol,a'th olwg mor ddeniadol.

15. Daliwch lwynogod; y llwynogod bachsydd am ddifetha gwinllannoedd –a'n gwinllannoedd yn blodeuo.

16. Fi piau nghariad, a fe piau fi;mae e'n pori yng nghanol y lilïau.

17. Tyrd, fy nghariad, hyd nes iddi wawrioac i gysgodion y nos ddiflannu –bydd fel gasél neu garw ifancyn croesi'r hafnau rhwng y bryniau creigiog.

Caniad Solomon 2