Barnwyr 9:18-26 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dych chi wedi ei fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg! A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi!

19. Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus.

20. Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!”

21. Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër, i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd.

22. Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd,

23. anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhwng Abimelech ac arweinwyr Sichem. A dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn.

24. Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd – saith deg ohonyn nhw!

25. Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. Ond dyma Abimelech yn clywed am y peth.

26. Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw.

Barnwyr 9