21. A dyma Seba a Tsalmwna yn dweud wrth Gideon, “Lladd ni dy hun, os wyt ti'n ddigon o ddyn!” A dyma Gideon yn lladd y ddau ohonyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd yr addurniadau brenhinol siap cilgant oedd am yddfau eu camelod.
22. Dyma ddynion Israel yn gofyn i Gideon fod yn frenin arnyn nhw. “Bydd yn frenin arnon ni – ti, a dy fab a dy ŵyr ar dy ôl. Rwyt ti wedi'n hachub ni o afael Midian.”
23. Ond dyma Gideon yn dweud wrthyn nhw, “Na, fydda i ddim yn frenin arnoch chi, na'm mab i chwaith. Yr ARGLWYDD ydy'ch brenin chi.”
24. Ond yna, meddai wrthyn nhw, “Gallwch wneud un peth i mi. Dw i eisiau i bob un ohonoch chi roi clustdlws i mi o'i siâr o'r pethau gymeroch chi oddi ar y Midianiaid.” (Ismaeliaid oedden nhw, ac roedden nhw i gyd yn gwisgo clustdlysau aur.)
25. “Wrth gwrs,” medden nhw. A dyma nhw'n rhoi clogyn ar lawr, a dyma'r dynion i gyd yn taflu'r clustdlysau aur ar y clogyn.
26. Roedd y clustdlysau i gyd yn pwyso bron ddau ddeg cilogram, heb sôn am yr addurniadau siâp cilgant, y tlysau crog, y gwisgoedd brenhinol a'r cadwyni oedd am yddfau'r camelod.
27. A dyma Gideon yn gwneud delw gydag effod arno a'i osod yn Offra, y dref lle cafodd ei fagu. Ond dyma bobl Israel yn dechrau ei addoli ac roedd hyd yn oed Gideon a'i deulu wedi syrthio i'r trap!
28. Dyna sut cafodd y Midianiaid eu trechu'n llwyr gan bobl Israel, a wnaethon nhw erioed godi i fod yn rym ar ôl hynny. Roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, tra roedd Gideon yn dal yn fyw.
29. Aeth Jerwb-baal (sef Gideon), mab Joas, yn ôl adre i fyw.
30. Cafodd saith deg o feibion – roedd ganddo lot fawr o wragedd.
31. Cafodd fab arall drwy bartner iddo, oedd yn byw yn Sichem. Galwodd e yn Abimelech.