A dyma Gideon yn anfon negeswyr i fryniau Effraim gyda'r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o'u blaenau a'u stopio nhw rhag croesi'r rhydau dros yr Afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny.