Barnwyr 6:19-24 beibl.net 2015 (BNET)

19. Felly dyma Gideon yn mynd a paratoi myn gafr ifanc. Defnyddiodd sachaid fawr o flawd i baratoi bara heb furum ynddo – tua deg cilogram. Rhoddodd y cig mewn basged a'r cawl mewn crochan a dod â'r bwyd i'w roi i'r angel, oedd o dan y goeden dderwen.

20. Yna dyma'r angel yn dweud wrtho, “Gosod y cig a'r bara ar y garreg yma, yna tywallt y cawl drosto.”Dyma Gideon yn gwneud hynny.

21. Yna dyma'r angel yn cyffwrdd y cig a'r bara gyda blaen ei ffon. Ac yn sydyn dyma fflamau tân yn codi o'r garreg a llosgi'r cig a'r bara. A diflannodd angel yr ARGLWYDD.

22. Roedd Gideon yn gwybod yn iawn wedyn mai angel yr ARGLWYDD oedd e. “O, na!” meddai. “Feistr, ARGLWYDD. Dw i wedi gweld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb!”

23. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Popeth yn iawn. Paid bod ag ofn. Dwyt ti ddim yn mynd i farw.”

24. Felly dyma Gideon yn adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD, a rhoi'r enw “Heddwch yr ARGLWYDD” arni. (Mae'n dal yna heddiw, yn Offra yr Abiesriaid.)

Barnwyr 6