1. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ystyried yn wirioneddol ddrwg. Felly dyma fe'n gadael i Midian eu rheoli nhw am saith mlynedd.
2. Roedd y Midianiaid mor greulon, nes i lawer o bobl Israel ddianc i'r mynyddoedd i fyw mewn cuddfannau ac ogofâu a lleoedd saff eraill.
3. Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai'r Midianiaid, yr Amaleciaid, a phobl eraill o'r dwyrain yn ymosod arnyn nhw.
4. Roedden nhw'n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio'r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw'n dwyn y defaid, yr ychen a'r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta.
5. Pan oedden nhw'n dod gyda'i hanifeiliaid a'u pebyll roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw roedd hi'n amhosib eu cyfrif nhw na'u camelod. Roedden nhw'n dod ac yn dinistrio popeth.
6. Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian a dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help.
9. Gwnes i'ch achub chi o'u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi'n eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi.
10. A dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau'r Amoriaid dych chi'n byw yn eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.”
11. Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i'w guddio oddi wrth y Midianiaid.
12. Dyma fe'n gweld yr angel, a dyma'r angel yn dweud wrtho, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.”