6. Yn nyddiau Shamgar, mab Anat,ac eto yn nyddiau Jael,roedd pobl yn osgoi'r priffyrddac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad.
7. Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel,nes i ti, Debora, godi,fel mam gan amddiffyn Israel.
8. Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd,a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau.Doedd dim tarian na gwaywffon i'w gaelgan bedwar deg o unedau milwrol Israel.
9. Ond molwch yr ARGLWYDD!Diolch am arweinwyr Israel,a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.
10. Gwrandwch bawb! –chi sy'n marchogaeth asennod gwynion,yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy,a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd.
11. Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! –yn canu am y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD,a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel.Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas!
12. Deffra! deffra! Debora.Deffra! deffra! cana gân!Ar dy draed, Barac!Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam!
13. A dyma'r dynion oedd ar gaelyn dod i lawr at eu harweinwyr.Daeth pobl yr ARGLWYDDi ymuno gyda mi fel rhyfelwyr.
14. Daeth rhai o Effraim(lle bu'r Amaleciaid yn byw),a milwyr Benjamin yn eu dilyn.Daeth capteiniaid i lawr o Machir,ac uchel-swyddogion o Sabulon.
15. Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora,ac yn ufudd i orchymyn Barac,yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn.Ond roedd pobl llwyth Reubenyn methu penderfynu beth i'w wneud.
16. Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau?A'i i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid?Oedden, roedd pobl llwyth Reubenyn methu penderfynu beth i'w wneud.
17. A dyma pobl Gilead hefydyn aros yr ochr draw i'r IorddonenAc yna llwyth Dan –pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau?Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir –arhosodd yntau ger yr harbwr.
18. Roedd dynion Sabulon a Nafftaliyn mentro'u bywydau ar faes y gâd.
19. Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn,yn Taanach wrth nentydd Megido.Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni.