20. Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr,ac ymladd yn erbyn Sisera.
21. Dyma'r Afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd;roedd yr afon yn eu hwynebu – Afon Cison.O, saf ar yddfau'r rhai cryfion!
22. Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir,a'u meirch yn carlamu i ffwrdd.
23. “Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr ARGLWYDD.“Melltithiwch bawb sy'n byw yno,am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr ARGLWYDD –ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.”
24. Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu,sef gwraig Heber y Cenead.Mae hi'n haeddu anrhydedd mwynac unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell.
25. Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth;a powlen hardd o gaws colfran.
26. Gyda peg pabell yn ei llaw chwitha morthwyl yn y llaw dde,tarodd Sisera a malu ei benglog –bwrw'r peg drwy ochr ei ben!
27. Syrthiodd wrth ei thraed.Syrthio, a gorwedd yn llipa.Gorwedd ar lawr wrth ei thraed,yn llipa a difywyd – yn farw!
28. Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl;mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid:“Pam mae e mor hir yn dod nôl?Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?”
29. Ac mae'r gwragedd doeth o'i chwmpasyn ateb, a hithau'n meddwl yr un fath,
30. “Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau,a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio!Dillad lliwgar, hardd i Sisera;dillad gwych o ddefnydd wedi ei frodio,a sgarff neu ddau i'w gwisgo!”
31. O ARGLWYDD, boed i dy elynion i gydddarfod yr un fath!Ond boed i'r rhai sy'n dy garu diddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd!Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd.