17. A dyma pobl Gilead hefydyn aros yr ochr draw i'r IorddonenAc yna llwyth Dan –pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau?Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir –arhosodd yntau ger yr harbwr.
18. Roedd dynion Sabulon a Nafftaliyn mentro'u bywydau ar faes y gâd.
19. Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn,yn Taanach wrth nentydd Megido.Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni.
20. Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr,ac ymladd yn erbyn Sisera.
21. Dyma'r Afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd;roedd yr afon yn eu hwynebu – Afon Cison.O, saf ar yddfau'r rhai cryfion!
22. Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir,a'u meirch yn carlamu i ffwrdd.
23. “Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr ARGLWYDD.“Melltithiwch bawb sy'n byw yno,am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr ARGLWYDD –ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.”
24. Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu,sef gwraig Heber y Cenead.Mae hi'n haeddu anrhydedd mwynac unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell.
25. Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth;a powlen hardd o gaws colfran.
26. Gyda peg pabell yn ei llaw chwitha morthwyl yn y llaw dde,tarodd Sisera a malu ei benglog –bwrw'r peg drwy ochr ei ben!
27. Syrthiodd wrth ei thraed.Syrthio, a gorwedd yn llipa.Gorwedd ar lawr wrth ei thraed,yn llipa a difywyd – yn farw!