Barnwyr 5:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y diwrnod hwnnw dyma Debora a Barac yn canu cân i ddathlu'r fuddugoliaeth:

2. Molwch yr ARGLWYDD!Pan mae arweinwyr Israel yn arwain,pan mae dynion yn gwirfoddoli'n frwd.

3. Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr!Dw i'n canu i'r ARGLWYDD!ie, canu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel.

4. O ARGLWYDD, pan adewaist Seir,a chroesi gwastatir Edom,dyma'r ddaear yn crynu,a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw.

5. Crynodd y mynyddoeddo flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai;o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel.

6. Yn nyddiau Shamgar, mab Anat,ac eto yn nyddiau Jael,roedd pobl yn osgoi'r priffyrddac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad.

7. Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel,nes i ti, Debora, godi,fel mam gan amddiffyn Israel.

8. Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd,a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau.Doedd dim tarian na gwaywffon i'w gaelgan bedwar deg o unedau milwrol Israel.

9. Ond molwch yr ARGLWYDD!Diolch am arweinwyr Israel,a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.

Barnwyr 5