8. Atebodd Barac, “Dw i ddim ond yn fodlon mynd os ei di gyda mi.”
9. “Iawn,” meddai hi, “gwna i fynd gyda ti. Ond os mai dyna dy agwedd di fyddi di'n cael dim o'r clod. Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.”Felly aeth Debora gyda Barac i Cedesh.
10. A dyma Barac yn galw byddin at ei gilydd o lwythau Sabulon a Nafftali. Aeth deg mil o ddynion gydag e ac aeth Debora gydag e hefyd.
11. Roedd Heber y Cenead wedi symud i ffwrdd oddi wrth weddill y Ceneaid (disgynyddion Chobab, oedd yn perthyn trwy briodas i Moses). Roedd yn byw wrth dderwen Saänannim, heb fod yn bell o Cedesh.
12. Pan glywodd Sisera fod Barac fab Abinoam wedi arwain byddin at Fynydd Tabor,
13. dyma fe'n galw'r fyddin gyfan oedd ganddo yn Haroseth-hagoïm at ei gilydd. Yna eu harwain, gyda'r naw cant o gerbydau rhyfel haearn, at Afon Cison.
14. Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd a ti! Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae'r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!”Felly dyma Barac yn mynd yn syth ac arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor.