10. A dyma Barac yn galw byddin at ei gilydd o lwythau Sabulon a Nafftali. Aeth deg mil o ddynion gydag e ac aeth Debora gydag e hefyd.
11. Roedd Heber y Cenead wedi symud i ffwrdd oddi wrth weddill y Ceneaid (disgynyddion Chobab, oedd yn perthyn trwy briodas i Moses). Roedd yn byw wrth dderwen Saänannim, heb fod yn bell o Cedesh.
12. Pan glywodd Sisera fod Barac fab Abinoam wedi arwain byddin at Fynydd Tabor,
13. dyma fe'n galw'r fyddin gyfan oedd ganddo yn Haroseth-hagoïm at ei gilydd. Yna eu harwain, gyda'r naw cant o gerbydau rhyfel haearn, at Afon Cison.
14. Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd a ti! Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae'r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!”Felly dyma Barac yn mynd yn syth ac arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor.
15. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i Sisera a'i holl gerbydau a'i fyddin banicio. Dyma Barac a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. (Roedd Sisera ei hun wedi gadael ei gerbyd, a ceisio dianc ar droed.)
16. Aeth byddin Barac ar eu holau yr holl ffordd i Haroseth-hagoïm, a cafodd milwyr Sisera i gyd eu lladd – gafodd dim un ei adael yn fyw.
17. Yn y cyfamser roedd Sisera wedi dianc i babell Jael, gwraig Heber y Cenead. (Roedd y Brenin Jabin o Chatsor wedi gwneud cytundeb heddwch gyda llwyth Heber.)
18. Aeth Jael allan i'w groesawu a dweud wrtho, “Tyrd yma, syr. Tyrd i orffwys yma gyda mi. Paid bod ag ofn!”Felly dyma Sisera yn mynd i mewn i'r babell a dyma Jael yn rhoi blanced drosto.
19. Dyma fe'n gofyn iddi, “Ga i ddiod o ddŵr? Dw i'n marw o syched.”Agorodd botel o groen gafr a rhoi diod o laeth iddo. Yna rhoddodd y flanced drosto eto.
20. “Dos i sefyll wrth fynedfa'r babell,” meddai Sisera wrthi. “Os bydd rhywun yn gofyn i ti oes yna rywun yn y babell dywed ‘Na’ wrthyn nhw.”