1. Ond ar ôl i Ehwd farw, dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
2. A dyma fe'n gadael i Jabin eu rheoli nhw – un o frenhinoedd Canaan, oedd yn teyrnasu yn Chatsor. Enw cadfridog ei fyddin oedd Sisera ac roedd yn byw yn Haroseth-hagoïm.
3. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod y brenin Jabin wedi eu cam-drin nhw'n ofnadwy ers ugain mlynedd. Roedd naw cant o gerbydau rhyfel haearn gan ei fyddin.
4. Debora, gwraig Lappidoth, oedd yn arwain Israel ar y pryd. Roedd hi'n broffwydes.
5. Byddai'n eistedd i farnu achosion pobl Israel dan Goeden Balmwydd Debora oedd rhwng Rama a Bethel ym mryniau Effraim. Byddai'r bobl yn dod ati yno, i ofyn iddi setlo achosion rhyngddyn nhw.
6. Dyma hi'n anfon am Barac fab Abinoam o Cedesh ar dir llwyth Nafftali. Ac meddai wrtho, “Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn i ti fynd â deg mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon i fynydd Tabor, i baratoi i fynd i ryfel.