Barnwyr 3:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dyma bobl Israel yn gwneud rhywbeth roedd yr ARGLWYDD yn ei ystyried yn wirioneddol ddrwg. Dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli delwau o Baal a pholion y dduwies Ashera.

8. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe'n gadael i Cwshan-rishathaim, brenin Mesopotamia, eu rheoli nhw. Roedden nhw'n gaethion i Cwshan-rishathaim am wyth mlynedd.

9. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw – Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb).

10. Dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno, a dyma fe'n arwain Israel i frwydro yn erbyn Cwshan-rishathaim. A dyma Othniel yn ennill y frwydr.

11. Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, nes i Othniel, mab Cenas, farw.

12. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly, o achos hyn, dyma'r ARGLWYDD yn gadael i Eglon, brenin Moab, reoli Israel.

13. Roedd Eglon wedi ffurfio cynghrair milwrol gyda'r Ammoniaid a'r Amaleciaid i ymosod ar Israel. Dyma nhw'n ennill y frwydr ac yn dal Jericho

14. Buodd pobl Israel yn gaethion i'r brenin Eglon am un deg wyth mlynedd.

15. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw. Ei enw oedd Ehwd, mab Gera o lwyth Benjamin. Roedd yn ddyn llaw chwith.Roedd Ehwd i fod i fynd â trethi pobl Israel i Eglon, brenin Moab.

16. Ond cyn mynd dyma Ehwd yn gwneud cleddyf iddo'i hun. Roedd y cleddyf tua 45 centimetr o hyd, gyda min ar ddwy ochr y llafn. Dyma fe'n strapio'r cleddyf ar ei ochr dde o dan ei ddillad.

17. Yna dyma fe'n mynd â'r arian trethi i Eglon. Roedd Eglon yn ddyn tew iawn.

18. Ar ôl cyflwyno'r trethi i'r brenin, dyma Ehwd a'r dynion oedd wedi cario'r arian yn troi am adre.

Barnwyr 3